Canolfan Iechyd Naturiol Tŷ Covent

THERAPÏAU SYDD AR GAEL YN TŶ COVENT



ACIWBIGO TSEINIAIDD TRADDODIADOL

Angela Llewellyn MSc, BA, BAc, MAcS

Cysylltu ag Angela

angela photo

Mae aciwbigo yn ddull o wella sydd wedi ei ymarfer yn Tseina a gwledydd eraill Y Dwyrain ers miloedd o flynyddoedd. Er yn aml yn cael ei ddisgrifio fel modd o leddfu poen, mae'n cael ei ddefnyddio i drin pobl gydag ystod eang o anhwylderau. Ffocws yw gwella'r person yn gyffredinol yn hyrtach na chanolbwyntio ar symptomau unigol.

Yn ôl meddylfryd traddodiadol y Tseiniaid, mae'n iechyd yn ddibynnol ar ynni ysgogol y corff – a adnabyddir fel Qi – yn symud mewn ffyrdd llyfn gytbwys drwy nifer o sianeli o dan y croen. Galli llif y Qi gael ei effeithio gan nifer o ffactorau, yn cynnwys emosiynnau fel poen meddwl, pwys, ofn, bod yn flin – ac hefyd, galar, heintiau, gwenwyn, wewyr – neu weithiau, y tywydd.

Mae Angela wedi graddio a dechrau ei hgwaith fel aciwbigwraig yn 1984, ac wedi bod aelod Ty-Covent ers 1998. Mae hi wedi bod yn dysgu aciwbigo mewn nifer o sefyllfaoedd, wedi ysgrifennu erthyglau ar bwnc iechyd ac aciwbigo, a chydweithiodd ambellwaith gyda meddygion confensiynnol ac ymerferion naturiol eraill. Aelod oedd hi'r pwyllgor ymchwil Cymdeithas Brydeinig Aciwbigo dros nifer o flynyddoedd, ac wedi bod yn datblygu cysylltiadau newydd ag aciwbigwyr tramor, yn cynnwys Ciwba, Corea a Rwsia.



ACIWBIGO PUM ELFEN CLASUROL

Vicky photo

Vicky Powell Lic.Ac, MBAcC

Cysylltu ag Vicky

Mae Vicky yn ymarfer Aciwbigo Pum Elfen Clasurol. Mae hyn wedi’i seilio ar yr athroniaeth fod y byd naturiol yn cael ei gynrychioli ym mhob person a bod posib gweld pob unigolyn fel cyfuniad unigryw o’r pum elfen: Tân, Daear, Metel, Dŵr a Phren, gydag un elfen amlwg. Mae’r rhythmau naturiol hyn yn angenrheidiol er mwyn creu cydbwysedd a harmoni, sy’n gwella pob rhan o iechyd. Pan fydd y rhain yn anghytbwys, bydd salwch yn amlygu ar lefel gorfforol, emosiynol, neu seicolegol. Mae aciwbigo pum elfen yn ceisio adfer cydbwysedd, drwy edrych ar symptomau’r unigolyn a’r achos sylfaenol, a dyfeisio triniaethau unigryw ar gyfer yr unigolyn.

Mae Vicky wedi graddio o’r Academi Aciwbigo yn Leamington Spa ac mae hi hefyd yn aelod o’r Cyngor Aciwbigo Prydeinig. Yn ddiweddar, symudodd Vicky i Bowys gyda’i dau gi ac mae’n mwynhau cerdded ar y traeth neu ar y bryniau, gan fod yn agos at natur a’r awyr agored. Mae hi hefyd yn cynnal clinig un dydd yr wythnos yn Aberystwyth.

CYNGHORYDD SY’N CANOLBWYNTIO AR YR UNIGOLYN

Seren Westermann, MBACP

Contact Seren

seren photo

Mae cwnsela canolbwyntio ar yr unigolyn yn fath o therapi perthynol sefydledig. Mae ei natur di-gyfeiriol yn gwahodd unigolion i ddod o hyd i'w hymatebion a datrysiadau unigryw at sefyllfaoedd maent yn eu hwynebu. Mae'r amgylchedd diduedd sy'n perthyn i'r therapi yn caniatáu unigolion i ddod o hyd i'w llais eu hunain a chael mynediad at ffyrdd o fodoli ar y Ddaear sy'n teimlo'n wir a chyfareddol.

Yr athroniaeth sy'n tanseilio'r Dull Canolbwyntio ar yr Unigolyn yw ein bod ni oll yn cario adnoddau cynhenid ar gyfer adfer a thyfu y tu mewn i ni ein hunain. Fodd bynnag, wrth i fywyd fynd yn ei flaen gallwn golli cysylltiad gyda'r agweddau sydd eu hangen arnom i lywio drwy rhai o'r heriau mwyaf mewn bywyd, megis iselder, hunan-hyder isel, hunan-barch isel, gorbryder a heriau o fewn perthnasoedd. Mae natur gwbl groesawgar y therapi yn hwyluso twf drwy gefnogi’r unigolyn i ddod o hyd i ffyrdd yn ôl at ei hun.

Cymhwysodd Seren Westermann yn 2000, ac mae hi wedi gweithio yn y GIG ac mewn practis preifat. Mae gan Seren ddiddordeb penodol mewn ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, gan ganolbwyntio ar reoli straen. Mae gan Seren Diploma mewn Dulliau yn Canolbwyntio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, ac mae hi'n ei ymgorffori yn ei gwaith.



SEICOTHERAPI INTEGREDDIOL

Matthew Whitney MBACP

Contact Matthew

BACP logo

Helô, Matt ydw i

Pan oeddwn i’n chwilio am therapydd, roedd gen i syniad bras o’r math o therapi yr oeddwn i’n chwilio amdano. Yr hyn oedd bwysicaf i mi oedd fy mod i’n dod o hyd i rywun oeddwn i’n ei hoffi, y gallwn i ymddiried ynddo a rhywun oedd yn fy neall i. Gyda hynny mewn golwg, mae croeso i chi roi galwad ffôn i mi er mwyn gweld a ydyn ni’n addas ar gyfer ein gilydd.

mathew photo

Rydw i’n gweithio mewn ffordd integreiddiol. Mae hyn yn golygu fy mod i wedi derbyn hyfforddiant mewn nifer o ddulliau seicotherapiwtig, ac yn dilyn hynny dw i wedi gallu tynnu arnynt, neu eu hintegreiddio, yn wahanol gyda phob unigolyn dw i’n ei weld. Dw i’n defnyddio’r dull yma gan fy mod yn teimlo bod pob un ohonom ni’n unigryw, yn ein profiadau, ein hanghenion a’n gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n debygol felly y bydd gwahanol bethau yn ein helpu ar wahanol adegau o’n bywydau. Pe baem ni’n cyfarfod, byddem yn penderfynu ac yn gweithio ar broses fyddai wedi ei chreu gan y ddau ohonom ni. Dw i’n gweithio mewn modd holistaidd, hynny ydy mae’n bwysig i mi ein bod ni’n craffu ar bob agwedd arnoch chi a’ch profiadau gwahanol, yn hytrach na thrin ‘symptomau’ yn unig. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i’ch cefnogi ar hyd eich taith, yn dosturiol, yn feddylgar ac yn ddeallus.

Dw i’n gweithio gydag ystod eang o gleientiaid, yn helpu pobl gydag amrywiaeth o hanesion, pryderon a heriau. Weithiau byddaf yn gweld unigolion am sesiwn neu ddwy, ac ar adegau am lawer hirach. Mae fy ngwaith wedi ei seilio ar barch, gofal a chwilfrydedd, ar fod yn ddi-farn ac yn galon-agored. Mae croeso cynnes i chi, beth bynnag yw eich profiadau, teimladau neu bryderon a phryd bynnag maen nhw’n codi.

Mae hi’n bwysig iawn i mi ein bod ni’n cydnabod pŵer a breintiau sydd yn bodoli yn ein cymunedau a sut maent yn effeithio arnom ni. Er efallai fod hyn yn gwbl amherthnasol i’r rheswm eich bod chi’n dod i geisio cwnsela, dw i eisiau gallu rhoi croeso cynnes iawn i unrhyw un sy’n dod o gymuned neu grŵp sydd ar yr ymylon. Nid oes yna unrhyw faes na phwnc na allwn eu trafod.

THERAPI CREUANSACROL

Fern Smith, BSc, MA, BCST

Cysylltu â Fern

Fern photo

Mae Therapi Creuansacrol yn fath o therapi pwerus ac ymarferol sy’n defnyddio cyffyrddiadau ysgafn i ysgogi gallu hunanwellhaol y corff. Mae’r gwaith yn tarddu o ddarganfyddiadau meddygon esgyrn dros ganrif yn ôl sy’n dangos bod meinweoedd byw mewn iechyd yn mynegi symudiad cynnil rhythmig o’r enw ‘Resbiradu Sylfaenol’. Mae mynegiant cytbwys y symudiad yn holl bwysig ar gyfer iechyd. Serch hynny, mae ffactorau fel damweiniau, anafiadau, straen, gwenwyn etc, yn gallu effeithio ar fynegiant Resbiradu Sylfaenol gan arwain at ystod eang o broblemau corfforol ac emosiynol. Mewn triniaeth, mae’r therapydd yn adnabod y meysydd straen hyn gan annog gwelliant o ran iechyd.

Ar ôl hyfforddi yn Ysgol Tylino a'r Corff ym Mryste, fe es ymlaen i hyfforddi ym maes Therapi Biodynamig Creuansacrol gyda Franklyn Sills yn y Sefydliad Karuna yn Nyfnaint. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn straen, cyflyrau corfforol/emosiynol a thrawsnewidiadau mawr mewn bywyd.

Rwyf wedi cofrestru gyda’r Sefydliad Therapi Creuansacrol ac wedi bod yn ymarfer ers dros ddegawd.

TYLINO HOLISTIG

Megan Mills MTI, CNHC

Cysylltu â Meg

Mae Meg wedi hyfforddi mewn Tylino a Gwaith Corff Cyfannol gydag Andy Fagg ac eraill yng Ngholeg Tylino a Gwaith corff Bryste, gyda David Lauterstein, o Lauterstein–Conway Massage School, ac mae hi ar hyn o bryd yn astudio Myofascial Release gyda’r enwog Ruth Duncan o Myofascial Release UK.

Bydd yr ymarferydd cyfannol yn trin y cleient yn gyfan, gan ystyried eu lles emosiynol ac ysbrydol, ynghyd â'u corff corfforol. Bydd y therapydd yn gweithio gyda'r cleient yn hytrach na dim ond rhoi sesiwn dylino iddyn nhw. Mewn ffordd dyner, mae hyn yn creu synnwyr o bresenoldeb yn y corff, gan helpu i roi sylw i bethau sy'n achosi unrhyw densiwn.

Fodd bynnag beth sydd yn disgleirio fwyaf yw ei harddull personol – sy’n cyfuno techneg effeithiol gyda’r sensitifrwydd yr ydym yn dyheu amdano wrth chwilio am driniaeth sy’n bodloni ein hanghenion.

Am Waith Meg:

Mae Tylino Cyfannol yn driniaeth i’r unigolyn, sy’n cyfuno ystod o arddulliau a thechnegau er mwyn addasu i anghenion y cleient ar y pryd. Wrth weithio gyda’r berthynas rhwng y Meddwl a’r Corff, bydd y therapydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd yr ydych yn rhyddhau ac yn ymlacio orau.

Mae Myofascial Release yn therapi sy’n gweithio’n bennaf gyda’r fascia - meinwe cysylltiol sy’n amgylchynu ac yn ystwytho cyhyrau, esgyrn ac organau ac sy’n gweithredu fel cynhaliwr strwythurol a hanfodol yn y corff. Mae gweithio gyda’r fascia yn gyfannol yng ngwir ystyr y gair, ac mae ymchwil yn dangos mwy a mwy o effeithiau pell gyrhaeddol y gwaith hwn. Mae Meg ar hyn o bryd yn y broses o gwblhau ei diploma gyda Myofascial Release UK.

HOMOEOPATHY

Linda Gwillim MCH, RSHom

Cysylltu â Linda

linda photo

Mae Homeopathi wedi ei selio ar y syniad fod modd defnyddio deunyddiau sy'n achosi rhai symptomau iw gwella nhw. Er mwyn darganfod eich meddygyniaeth chwi rhaid i'r Homeopath eich deall fel person cyflawn. Byddant yn gofyn cwestiynau am eich symptomau meddyliol, emosiynol a ffisegol yn ogystal a hanes meddygol eich teulu. Bydd nifer fach o feddygyniaeth Homeopathic yn annog pwerau gwella y corff i ddod a'r iechyd da yn ôl.

Astudiais yng Ngholeg Homeopatheg Llundain ac rwyf yn aelod cofrestredig o’r Gymdeithas o Homeopathiaid – derbyniais Gymrodoriaeth gan y Gymdeithas yn 2016.

Rwyf wedi bod yn ymarfer Homeopatheg yn Nhŷ Covent ers 30 o flynyddoedd bellach. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi llwyddo i greu practis prysur ac yn gweld cleifion pum diwrnod yr wythnos.

Mae fy mhractis yn amrywiol iawn, yn gweithio gyda phobl ifanc a hen fel ei gilydd – gan ganolbwyntio ar symptomau meddyliol/emosiynol a ffisegol – o natur ddifrifol a chronig.

Rwyf yn glinigwr craidd ac yn athro yn Ysgol Homeopatheg Cymru yng Nghaerfyrddin yn ogystal â darlithio mewn colegau homeopatheg eraill yn y DU a dramor.

REFLECSOLOGI

Sue Fisher MAR

Cysylltu â Sue

sue photo

Therapi tyner, naturiol yw Adweitheg. Mae wedi cael ei ymarfer yn Tsieina am filoedd o flynyddoedd a chafodd ei ddatblygu yn y Gorllewin ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Yn ôl theori feddygol draddodiadol y Tsieineaid y nod yw cydbwyso'r llif egni – Qi – drwy'r corff er mwyn gwella a chynnal iechyd emosiynol a chorfforol fel ei gilydd. Mae'r dull gorllewinol yn datgan bod gan wahanol rannau'r corff bwyntiau cyfatebol ar un droed neu'r ddwy droed: dyma'r map o'r traed y mae nifer o bobl yn ei adnabod fel Adweitheg, heddiw.

Rhoddir pwysau ar bwyntiau atgyrch penodol ar y traed a gwaelod y coesau er mwyn annog potensial y corff ei hun i iacháu, i leihau straen, a datblygu synnwyr o les.

Rwyf wedi bod yn gwneud adweitheg ers 1996 ac rwyf yn aelod o Gymdeithas yr Adweithegwyr www.aor.co.uk.

Mae gennyf glinig yn Tŷ Covent ar ddydd Gwener. Fel arfer mae apwyntiadau yn para am awr.

THERAPEUTIC MASSAGE

Olivia Chandler Dip TM

Cysylltu ag Olivia

livy photo

Un o'r hynaf a mwy gyfredinol o'r gelfyddydau iachaol yw tylino'r corff.

Ers miloedd blwyddyn cafodd rhy fath o ddylino ei ddefnyddio i wellhau ac I leddfu poen. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ers y minud ein geni, Yn wir mae tylino rheolaidd yn gallu mynd ymhellach o lawer na hyn gan wella'r iechyd yn gyffredinol.

Ond yn wir, mae tylino'r corff yn gallu wellhau eith iechyd arferol, yn gorchfygu'r effeithiau parhaol a stres, ac yn cynnig cyfle am laesiad. Yn helpu'r corff ymlacio, mae tylino'r corff yn diswyddo poen, anstwythder a thyndra. Mae'n bosib i ymlacio eich cychyrau poenus, symbylu'ch gwaed, ac yn creu teimlad o ryddid trwy'r corff.

Mae gan Olivia dros 30 mlynedd o brofiad yn cynorthwyo pobl gydag ystod o gyflyrau poenus ers iddi ennill Diploma mewn Tylino Therapiwtig yn y Coleg Meddyginiaeth Holistig yn 1987.