Canolfan Iechyd Naturiol Tŷ Covent

Croeso i Ganolfan Iechyd Naturiol Tŷ Covent.

Yma cewch fanylion am yr holl therapïau rydym yn eu cynnig, yn ogystal â manylion am yr ymarferwyr.


Covid-19

Mae Covent House ar agor! Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i sicrhau bod pawb yn gallu aros yn ddiogel ac yn iach, gan ddilyn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.

Os hoffech drefnu apwyntiad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, o gwbl, croeso mawr i chi gysylltu â ni.



Sefydlwyd Tŷ Covent yn nhref hardd Machynlleth dros 30 mlynedd yn ôl. Mae Tŷ Covent yn cynnig amrywiaeth eang o therapiau cyflenwol a dulliau gofal iechyd gwahanol i gyd o dan un to. Mae triniaethau amgen yn anelu at gydweithio â meddygaeth gonfensiynol er mwyn ein galluogi i fwynhau yr iechyd gorau posibl.

Mae’r holl ymarferwyr sy’n gweithio yng Nghanolfan Iechyd Naturiol Tŷ Covent yn aelodau o gyrff proffesiynol cydnabyddedig, maent yn dilyn cod moesegol y cyrff hyn ac mae ganddynt yswiriant llawn, felly gallwch ymddiried yn llawn yn yr ymarferwyr a’r therapïau maent yn eu cynnig.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu drefnu apwyntiad, ffoniwch yr ymarferydd perthnasol, ac mi fydd ef/hi yn falch iawn o’ch helpu.

Os oes gan eich cymdeithas chi ddiddordeb, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.